Ding Dong, Round 2

Galwad am Geisiadau am Grantiau Craidd gan Sedfydliad Celfyddydau Ulrike Michal

11.01.2022

Hoffai Ymddiriedolwyr Sefydliad Celfyddydau Ulrike Michal gyhoeddi bod ail rownd eu ceisiadau am grantiau craidd ar agor.

Gall y Sefydliad gynnig:

Tri grant o hyd at £500, tri grant am rhwng £501 a £1,000 a thri grant am rhwng £1,001 a £3,000 am brosiectau celfyddyd sy’n

“hyrwyddo, annog ac ymestyn y cariad at, gwerthfawrogiad, mwynhad, dealltwriaeth ac arfer celfyddydau cain, addurnol a chymhwysol ymyysg pobl o bob oed trwy brofiadau mewn amgueddfeydd, orielau celf, eiddo hanesyddol ac yn y gymuned yn gyffredinol, fel unigolion ac yn gymunedol, fel cyfrnaogwyr a gwylwyr.”

Mae’r Sefydliad yn croesawu ceisiadau am brosiectau a fydd o fudd i gymunedau ledled gogledd Cymru, Glannau Merswy a siroedd y gororau, sef Swydd Gaer, Swydd Amwythig a Swydd Henffordd.
 
Y dyddiad a’r amser cau ar gyfer pob cais am grant craidd ydy Mawrth 20fed 2022, 5 y.p.