Ulrike Michal, a veterinary neurologist and artist

Byddai ymddiriedolwyr Ulrike Michal Foundation for the Arts yn hoffi cyhoeddi agor eu cylch ariannu cyntaf ar gyfer ceisiadau am grantiau.

11.01.2021

ulrike

Byddai ymddiriedolwyr Ulrike Michal Foundation for the Arts yn hoffi cyhoeddi agor eu cylch ariannu cyntaf ar gyfer ceisiadau am grantiau.

Mae’r Sefydliad yn gallu cynnig dau fath o grantiau’r tro yma:

a) Tri grant hyd at £500, tri grant rhwng £501 a £1,000 a thri grant rhwng £1,001 a £3,000 am brosiectau celfyddyd sy’n “hyrwyddo, hybu ac ymestyn caru, gwerthfawrogi, mwynhau, deall ac arfer y celfyddydau cain, addurnol a chymhwysol ymysg pobl o bob oed trwy brofiadau mewn amgueddfeydd, orielau celfyddyd, eiddo hanesyddol ac yn y gymuned yn gyffredinol, fel unigolion ac ar y cyd, fel cyfranogwyr a gwylwyr.”

b) Chwech o grantiau myfyrwyr hyd at £250 yr un i gynorthwyo myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau yn y celfyddydau cain ac addurnol.

Mae Ymddiriedolwyr y Sefydliad yn cadw’r hawl i newid nifer y grantiau gan ddibynnu ar ansawdd y ceisiadau.

Mae’r Sefydliad yn croesawu ceisiadau am brosiectau fydd yn elwa cymunedau yng Ngogledd Cymru, Glannau Mersi a siroedd Caer, Amwythig a Henffordd ar y gororau.

Dylai ceiswyr y grantiau myfyrwyr fod naill ai’n byw ac yn astudio yn y mannau hynny neu fod yn byw yn yr ardaloedd hynny cyn dechrau eu cwrs celfyddyd.

Y dyddiad cau ar gyfer holl geisiadau am grantiau yw 27ain Mawrth 2021.