Dyma Rownd 3 –Galwad am Geisiadau am Grant gan Sefydliad Celfyddydol Ulrike Michal

10.10.22

Dymunai Sefydliad Celfyddydol Ulrike Michal gyhoeddi agor eu rownd ariannu ddiweddaraf ar gyfer ceisiadau am grant.

Gall y Sefydliad gynnig:

  • Tri grant o hyd at £1,000, tri grant am rhwng £1,000 a £3,000 ac un grant am rhwng £3,001 a £5,000 am brosiectau celfyddydol sy’n “hyrwyddo, annog ac ymestyn cariad, mwynhad, dealltwriaeth ac arfer celfyddydau cain, addurnol a chymhwysol ymysg pobl o bob oed trwy brofiadau mewn amgueddfeydd, orielau, eiddo hanseyddol ac yn y gymuned yn gyffredinol, fel unigolion, yn ogystal ag yn gymunedol, fel cyfranogwyr a gwylwyr.”

  • Chwe grant myfyriwr o hyd at £500 yr un i gynorthwyo myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau yn y celfyddydau cain ac addurnol.

Mae’r sefydliad wedi cefnogi’n flaenorol gweithdai celfyddydol (cain ac addurnol), prif arddangosfeydd celf, celf cyhoeddus, cadwraeth gweithiau celfyddydol a phreswylfeydd mewn prosiectau a drefnwyd gan artistiaid unigol, grwpiau cymunedol, ysgolion, amgueddfeydd lleol a chenedlaethol, ac orielau celf.

Caiff unrhyw brosiect gelfyddydol gain neu addurnol sy’n cwrdd ag amcanion cyffredinol y sefydliad eu hystyried. Mae’r Ymddiriedolwyr yn croesawu’n arbennig ceisiadau sy’n coleddu, dathlu, datblygu ac yn rhannu sgiliau traddodiadol y celfyddydau cain ac addurnol.

Mae manylion llawn cynlluniau grant craidd a grantiau myfyrwyr a’r meini prawf cymhwysedd i’w cael ar wefan y sefydliad.

Mae’r Sefydliad yn croesawu ceisiadau grant craidd am brosiectau a fyddai o fudd i gymunedau ledled gogledd Cymru, Glannau Merswy a siroedd y gororau, sef Swydd Gaer, Swydd Amwythig a Swydd Henffordd yn ystod 2023-24.

Mae’r Sefydliad yn croesawu ceisiadau grantiau myfyrwyr gan fyfyrwyr sy’n astudio yn ein rhanbarth a gan myfyrwyr sy’n dod o’n rhanbarth ond sy’n astudio yn rhywle arall.

Yr amser a’r dyddiad cau ar gyfer holl geisiadau grant craidd ydy 5 y.p., Rhagfyr 23ain.
Yr amser a’r dyddiad cau ar gyfer holl geisiadau grantiau myfyrwyr ydy 5 y.p., Tachwedd 30ain.

Mae Ymddiriedolwyr y Sefydliad yn cadw’r hawl i newid nifer y grantiau craidd a grantiau myfyrwyr, yn dibynnu ar ansawdd y ceisiadau.

Am fwy o wybodaeth: cysylltwch â ni