Rownd 4 – Pobl Greadigol, Dechreuwch Hel Syniadau!!

Galwad am Geisiadau Grant gan Sefydliad Celfyddydau Ulrike Michal

29.09.23

Mae Sefydliad Ulrike Michal yn falch o gyhoeddi agor eu rownd ariannu ddiweddaraf ar gyfer ceisiadau am grantiau.

Gall y Sefydliad gynnig:

  • Tri grant o hyd at £1,500, tri grant am rhwng £1,501 a £3,000 a dau grant yr un am rhwng £3,001 a £5,000 am brosiectau celfyddyd sy’n “hyrwyddo, annog ac ymestyn y cariad at, gwerthfawrogiad, mwynhad, dealltwriaeth ac arfer celfyddydau cain, addurnol a chymhwysol ymysg pobl o bob oed trwy brofiadau mewn amgueddfeydd, orielau celf, eiddo hanesyddol ac yn y gymuned yn gyffredinol, fel unigolion ac yn gymunedol, fel cyfranogwyr a gwylwyr.”

  • Pedwar grant myfyrwyr am hyd at £500 yr un i gynorthwyo myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau yn y celfyddydau cain ac addurnol.

Yn y gorffennol, mae’r sefydliad wedi cefnogi gweithdai celf (cain ac addurnol), arddangosfeydd celf o bwys, cadwraeth gweithiau celf, celfyddyd gyhoeddus, celf yn y gymuned a phreswylfeydd mewn prosiectau a drefnir gan artistiaid unigol, grwpiau cymunedol, ysgolion, amgueddfeydd lleol a chenedlaethol, ac orielau celf.

Fe roddir ystyriaeth i unrhyw brosiect celfyddyd gain neu addurnol sy’n cwrdd ag amcanion cyffredinol y sefydliad. Mae’r Ymddiriedolwyr yn croesawu’n arbennig ceisiadau sy’n trysori, dathlu, datblygu, arddangos ac yn rhannu sgiliau traddodiadol y celfyddydau cain ac addurnol.

Dywed David Brown, Cadeirydd Sefydliad Ulrike Michal, “Mae’r Sefydliad wedi ariannu sawl prosiect gwerth-chweil yn ymwneud â’r celfyddydau ers 2021 ac, wedi i’r ceisiadau wneud argraff arnyn nhw mewn blynyddoedd blaenorol, mae’r Ymddiriedolwyr yn edrych ymlaen i weld pa geisiadau diddorol ac amrywiol ddaw o’r rownd ariannu ddiweddaraf hon. Fodd bynnag, o holl ardaloedd daearyddol dalgylch yr elusen, mae’r Ymddiriedolwyr eto i ddynodi grantiau ar gyfer prosiectau yn Ynys Môn, Gwynedd, Sir y Fflint a Swydd Henffordd ac yn croesawu’n fawr ceisiadau o’r siroedd hyn. Hefyd, gan fod yr Ymddiriedolwyr wedi ariannu llawer o ddigwyddiadau gweithdy ac arddangosiadau clybiau, fe fase ganddyn nhw ddiddordeb arbennig i dderbyn ceisiadau am brosiectau mwy arloesol, anarferol a gwaddol hirdymor.”

Ceir manylion llawn am y cynlluniau grant craidd a myfyrwyr, ynghyd â’r meini prawf, ar wefan y sefydliad.

Mae’r Sefydliad yn croesawu ceisiadau grant am brosiectau a fydd o fudd i gymunedau ledled gogledd Cymru, Glannau Merswy a siroedd y gororau, Swyddi Caer, Yr Amwythig a Henffordd, yn ystod y cyfnod o fis Mawrth 2024 hyd at Ebrill 2025, a bydd yr ymddiriedolwyr yn ystyried amserlin hirach os gall yr ymgeisydd gyfiawnhau’r angen am amser ychwanegol.

Mae’r Sefydliad yn croesawu ceisiadau grant gan fyfyrwyr sy’n astudio yn ein rhanbarth a chan fyfyrwyr sy’n hannu o’n rhanbarth ond sy’n astudio yn rhywle arall.

Y dyddiad cau ar gyfer holl ceisiadau grant craidd ydy Rhagfyr 22ain,5 y.p.
Y dyddiad cau ar gyfer holl ceisiadau grant myfyrwyr ydy Tachwedd 30ain, 5y.p.

Mae Ymddiriedolwyr y Sefydliad yn cadw’r hawl i newid y nifer o grantiau craidd a grantiau myfyrwyr, yn dibynnu ar ansawdd y ceisiadau.

Am fwy o wybodaeth: cysylltwch â ni